Mae Gildas, dyn ifanc o Sir Gaerfyrddin, wedi cwblhau camp anhygoel yn ddiweddar – yn ystod cyfnod o dri mis, fe feiciodd ef bellter y Tour de France, sef 3,333km. Dewisodd Gildas i godi arian ar gyfer Walk Wheel Cycle Trust a dwy elusen arall efo’i ymdrechion ar gefn beic, a hoffan ddweud diolch enfawr iddo fe.
Mae Gildas Davies o Sir Gaerfyrddin wedi cwblhau camp beicio anhygoel i godi arian. Llun gan: Amy Davies.
Bu un dyn ifanc o Sir Gaerfyrddin cwblhau camp anhygoel yn ddiweddar, gan feicio pellter y Tour de France o fewn cyfnod o dri mis.
Teimlodd Gildas Davies, crwt o 13 mlwydd oed efo awtistiaeth sy’n ddwli ar feicio, yr angen i wneud rhywbeth cadarnhaol yn wyneb popeth sydd wedi bod yn digwydd ar led y byd yn ddiweddar.
“Mae’n ofidus gweld pethau ofnadwy yn digwydd yn y byd, ac roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi cael fy ysbrydoli gan ddyfyniad gan Dr Martin Luther King, a ddywedodd “Ni all tywyllwch yrru allan dywyllwch; dim ond golau gall wneud hynny. Ni all casineb yrru allan gasineb; dim ond cariad all wneud hynny,”” meddai Gildas.
“Felly, rydw i eisiau dangos caredigrwydd a gwneud rhywbeth cadarnhaol am y pethau sy’n bwysig i mi.”
Ar adeg ysgrifennu’r erthygl yma, llwyddodd Gildas i godi cyfanswm aruthrol o £1,181.33 sydd am gael ei rannu ymhlith Walk Wheel Cycle Trust, Cyngor Ffoaduriaid Cymru ac Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlypdiroedd.
Ymunodd aelodau o'i deulu a grŵp beicio Towy Riders â Gildas ar ei daith. Llun gan: Amy Davies.
Ymdrech aruthrol i gefnogi'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
Ymunodd aelodau o’i deulu a’i grŵp beicio lleol, y Towy Riders, â Gildas ar hyd rhannau o’i daith.
Yn ogystal â llawer o bobl lleol, cafodd Gildas ei effeithio gan gaead angenrheidiol Dyffryn y Swistir yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y llwybr, sy’n rhan o Ffordd 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ei gau blwyddyn diwethaf o ganlyniad i dirlithriad dinistriol efo rhan mawr o’r llwybr ger y Tymbl yn cael ei ddinistrio’n llawn.
O ganlyniad, dewisodd Gildas i wneud rhywbeth ei hun, i godi arian tuag at ei atgyweiriad, ac i gefnogi’r gwaith y mai Walk Wheel Cycle Trust yn ei wneud gan gefnogi pobl i feicio yng Nghymru.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth ac yn helpu i atgyweirio llwybr Dyffryn y Swistir,” dwedodd Gildas.
“Dewisais Walk Wheel Cycle Trust oherwydd maent yn gallu helpu’r cymuned i gadw ati i feicio.”
Gildas ar ei daith beicio, yn ceisio cwblhau 3,333km o fewn tri mis. Llun gan: Amy Davies.
Her sylweddol sydd am gael effaith hirdymor nodedig
Er i’r pellter bod yn frawychus, nid oedd Gildas yn ofni maint yr her yr oedd ef wedi’ osod ei hun.
“Roedd y beicio ei hun yn her fawr – roedd rhai o’r dringfeydd yn anodd, ond roedd rhaid parhau gyda’r sialens,” dwedodd ef.
“Roedd yr her yn hwyl iawn i wneud gan roedd rhaid i mi beicio bron i 40km pob dydd am dri mis.”
“Roedd hynny’n hwyl iawn, ac rwy’n teimlo’n dda ac yn balch o fy hun.”
Ar ran pawb yma yn Walk Wheel Cycle Trust, hoffan dweud diolch enfawr a thwymgalon i Gildas.
Mae ei ymdrechion anhygoel ef am wneud gwahaniaeth a helpu cefnogi’r gwaith rydym yn gwneud i’w wneud yn haws i bawb cerdded, olwyno a beicio – diolch o galon, Gildas.
Ydych chi wedi’ch ysbrydoli i godi arian am Walk Wheel Cycle Trust trwy her eich hun ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol?
Byddan yn caru clywed oddi wrthoch – cliciwch trwodd i’n tudalen Codi Arian a Digwyddiadau Her.