Streetview Cymru: Cofnodi llwybrau di-draffig ar y Rhwydwaith

Fel rhan o brosiect newydd, byddwn yn gweithio gyda chontractwr i gofnodi llwybrau di-draffig ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru. Isod, rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin i helpu i egluro sut rydym yn bwriadu gwneud hyn.

Dwy ddynes yn beicio ar lwybr coediog heb draffig. Credyd: Andy McCandlish/Walk Wheel Cycle Trust

Pam ydych chi ffilmio ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol?

Rydym yn tynnu lluniau o ansawdd uchel o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru i helpu cerddwyr, beicwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn a chymunedau lleol i ddeall amodau'r llwybr yn well.

Bydd y delweddau'n ymddangos ar lwyfannau mapio agored Google Streetview a Mapillary, sy'n cefnogi llywio, hygyrchedd a chynllunio llwybrau.

Ar gyfer beth fydd y delweddau'n cael eu defnyddio?

Mae'r delweddau’n helpu i:

  • Wella mapiau digidol ac offerynnau llywio

  • Darparu gwybodaeth weledol gyfredol i ddefnyddwyr llwybrau

  • Cyfrannu at brosiectau mapio data agored sydd o fudd i'r cyhoedd

A oes gennym hawl i ffilmio pobl yn gyhoeddus?

Oes; caniateir ffilmio mewn mannau cyhoeddus.

Sut ydych chi'n diogelu preifatrwydd pobl?

Mae unrhyw luniau damweiniol o bobl neu blatiau rhif cerbydau yn cael eu niwlio’n awtomatig gan y llwyfannau ar-lein cyn cael eu cyhoeddi, gan helpu i sicrhau na ellir adnabod unigolion.

Os yw rhywun yn credu bod delwedd yn dal yn ddigon clir i’w hadnabod, gallant ofyn i’w gwneud yn fwy niwlog neu ofyn i gael dileu’r llun.

Mae'r ddau blatfform ar-lein hyn yn cynnig adnoddau ar gyfer adrodd neu ofyn am ddileu delweddau, os oes angen:

https://help.mapillary.com

https://support.google.com/answer/3093484#report_issue

Fyddwch chi’n recordio sain?

Na, dim ond delweddau llonydd neu fframiau fideo sy'n cael eu dal – ni chaiff unrhyw sain ei recordio.

A allaf ofyn am gael gwared ar ddelwedd ohonof i?

Gallwch. Mae Google Streetview a Mapillary ill dau yn caniatáu i ddefnyddwyr ofyn i’w gwneud yn fwy niwlog neu ddileu delweddau penodol.

Gallwch ddefnyddio adnoddau adrodd y platfform i wneud hyn.

Ydych chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol?

Nid yw awdurdodau lleol yn rhan o'r ffilmio, ond mae Walk Wheel Cycle Trust wedi hysbysu'r holl awdurdodau lleol bod y ffilmio'n digwydd dros yr haf a dechrau'r hydref.

Ydych chi'n ffilmio ar dir preifat?

Nac ydym yn gyffredinol, ond gall rhai rhannau o'r Rhwydwaith redeg ar draws tir preifat lle mae'r tirfeddiannwr wedi rhoi caniatâd neu lle mae cytundebau mynediad cyfreithiol yn bodoli.

Pa mor aml fyddwch chi'n ffilmio?

Mae ffilmio yn ddibynnol ar y tywydd ac felly gall newidiadau ddigwydd ar fyr rybudd.

Pwy alla i gysylltu â nhw gydag unrhyw bryderon?

Gallwch gysylltu â ni'n uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion ar y wefan hon.

Gallwch hefyd ofyn am niwlio neu ddileu delweddau’n uniongyrchol drwy adnoddau adrodd y platfform sy’n cynnal y delweddau.

Hysbysiad Preifatrwydd Streetview Cymru

Rhannwch y dudalen hon