Cyhoeddedig: 4th Awst 2026

Hysbysiad Preifatrwydd Streetview Cymru

Mae Walk Wheel Cycle Trust yn casglu delweddau lefel stryd ar hyd rhannau di-draffig o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru.

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei mapio ar lwyfannau fel Google Streetview a Mapillary er mwyn i bawb gael archwilio a chynllunio llwybrau yn ddiogel.

Beth rydyn ni'n ei gipio a sut rydyn ni'n ei ddefnyddio

Rydym am recordio delweddau llonydd neu fframiau fideo heb sain ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru.

Weithiau, bydd pobl a cherbydau’n cael tynnu eu lluniau’n ddamweiniol. Mae'r delweddau hyn yn cael eu niwlio’n awtomatig ar y llwyfannau sy’n cynnal y delweddau cyn eu cyhoeddi.

Nid ydym yn ceisio adnabod unigolion a gwneir ymdrechion i leihau unrhyw achosion o dynnu lluniau pobl a cherbydau’n ddamweiniol.

Dim ond cyhyd ag sydd ei angen i gwblhau'r broses mapio y byddwn yn cadw'r data hwn.

Gall y llwyfannau cynnal gadw delweddau niwlog am gyfnod hirach i gefnogi parhad y mapiau.

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

Mae Walk Wheel Cycle Trust yn dibynnu ar fuddiannau dilys i brosesu'r data cyn ei wneud yn niwlog.

Rydym wedi asesu sut mae ein diben o sicrhau bod llwybrau di-draffig ar gael i bawb eu llywio ar hyd y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn cydbwyso â hawliau preifatrwydd pobl a gafodd dynnu eu lluniau’n ddamweiniol.

Eich hawliau

Os ydych chi'n credu bod delwedd yn eich adnabod chi, gallwch ofyn i gael ei gwneud yn fwy niwlog neu ddileu’r ddelwedd.

Mae Google Streetview a Mapillary ill dau yn cynnig adnoddau adrodd delweddau mewnol at y diben hwn, a gallwch gysylltu â nhw:

https://help.mapillary.com/

https://support.google.com/maps/answer/3093484#report_issue/

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau o dan GDPR y Deyrnas Unedig, sut rydym yn storio data a sut i gysylltu, ewch i'n nodyn preifatrwydd.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – https://cy.ico.org.uk/for-organisations/uk-gdpr-guidance-and-resources/individual-rights/individual-rights/

Gweler ein prif Nodyn Preifatrwydd yma – https://www.walkwheelcycletrust.org.uk/cy/cyfreithiol/preifatrwydd/

Cysylltu – os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y prosiect hwn, cysylltwch â ni ar enquiries@walkwheelcycletrust.org.uk.

Rhannwch y dudalen hon