Cyhoeddedig: 16th Mehefin 2026

Staff ysgolion Cymru yn derbyn hwb diolch i brosiect Gweithleoedd Iach

Mae prosiect Gweithleoedd Iach Walk Wheel Cycle Trust, a ariannir gan Lywodraeth Cymru, yn awr yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i roi hwb i'w staff wrth iddynt deithio i'r gwaith.

Staff uned cyfeirio disgyblion Maes Derw oedd rhai o'r cyntaf yng Nghymru i fenthyg e-feiciau am ddim diolch i'r prosiect Gweithleoedd Iach. Llun gan: Walk Wheel Cycle Trust.

Yn dechrau gydag uned cyfeirio disgyblion Maes Derw yn Abertawe, mae staff ein prosiect Gweithleoedd Iach wedi bod yn brysur yn darparu e-feiciau i ysgolion ar led Cymru.

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae tîm y prosiect wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ar draws y wlad i helpu staff teithio'n iachach i'r gwaith.

Mae staff o Faes Derw yn y de, Ysgol Tir Morfa ac Ysgol Sant Elfod yn y gogledd wedi elwa o gael benthyg ar e-feiciau am ddim - gan gynnwys cloeau, bagiau a helmedi.

Yr amcan yw cynyddu'r nifer o bobl sy'n teithio'n gynaliadwy ac mewn ffyrdd iachach, felly mae staff ysgolion yn gallu gwneud defnydd o e-feiciau yn ogystal â manteisio ar sesiynau sy'n ceisio cynyddu eu hyder wrth iddynt deithio'n fwy llesol i'r gwaith.

Mae ein swyddogion prosiect wedi helpu staff ysgolion i gynllunio eu teithiau i'w gweithleoedd, yn eu helpu nhw i chwilio'r ffordd i'r gwaith yn well, a'u galluogi nhw o ganlyniad i'w ddewisiadau.

Aelod o staff Ysgol Tir Morfa yn profi un o e-feiciau'r prosiect Gweithleoedd Iach ar dir yr ysgol. Llun gan: Walk Wheel Cycle Trust.

E-feiciau yn galluogi staff i deithio'n iachach ac yn fwy egnïol

Yn ôl rhai aelodau staff Ysgol Tir Morfa, yr atyniad o ddefnyddio e-feic oedd newid ei ddull o deithio wrth iddynt deithio rhwng dau safle'r ysgol.

Gwelon nhw'r prosiect fel cyfle i rai o ddisgyblion hyn yr ysgol, sy'n astudio sgiliau trwsio beiciau fel rhan o'u haddysg, cael ymarfer yr hyn maent wedi bod yn dysgu mewn modd ymarferol.

"Gan ein bod ni'n mor agos i holl lwybrau beicio ar hyd yr arfordir, mae'n lleoliad delfrydol i feicio," meddai Ben, aelod o staff yn Nhir Morfa.

"Mae llwyth o gyfleoedd i fynd allan, ac nid oes gormod o draffig ar y ffordd [i'r ysgol] chwaith."

Gall gweld aelodau staff yn teithio i'r gwaith ar e-feiciau hefyd helpu annog eu disgyblion i deithio'n iachach ac yn fwy llesol hefyd, yn nhyb Ben.

Ar gyfer rhai staff Maes Derw, roedd cael benthyg e-feic yn golygu byddai beicio i'r gwaith yn opsiwn dichonol, efo rhai ohonynt yn orfod mynd i'r afael â bryniau serth ar eu taith.

Mantais cael benthyg e-feic am gyfnod estynedig o amser oedd bydd rhai o fryniau enwog o serth y dirwedd Gymreig nawr yn ddichonadwy.

Bydd swyddogion prosiect Walk Wheel Cycle Trust yn gweithio yn gyfochrog â staff ysgolion er mwyn sicrhau eu bod nhw'n hyderus wrth ddefnyddio'r e-feiciau, yn ogystal â'u cefnogi nhw i wneud teithiau iach i'r gwaith. Llun gan: Walk Wheel Cycle Trust.

Adnodd iachus sydd ar gael i ysgolion ar led Cymru oll

Yn siarad am y prosiect, dwedodd Charlie Gordon, Rheolwr Prosiect Walk Wheel Cycle Trust, "Diolch i'r cyllid gan Lywodraeth Cymru, rydym yn gallu gweithio gydag ysgolion ar led y wlad, yn helpu eu staff gwneud teithiau iachach sy'n fwy cynaliadwy."

"Os ydych yn gweithio yn unrhyw fath o ysgol yng Nghymru ac mae gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, hoffan glywed oddi wrthoch - does dim angen i chi fod yn feicwyr o brofiad er mwyn elwa o'r prosiect yma!"

"Rydym eisiau helpu staff i deimlo'n hyderus ac wedi'u galluogi i wneud teithiau llesol, iachus i'r gwaith, ac mae'r e-feiciau'n helpu gwneud hynny'n hwylus hefyd."

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru