Mae murlun newydd sy’n talu teyrnged i’r gymuned leol, hanes a diwylliant Aberystwyth wedi’ gyflwyno ar Lwybr 81 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, mewn partneriaeth ag Admiral, yn ogystal â llwyth o grwpiau cymunedol.
Roedd y prosiect yma'n bosibl diolch i gydweithrediad eang rhwng hapddalwyr cymunedol a phartneriaid y prosiect. Llun gan: Cyngor Ceredigion.
Mae’r murlun, a chrëwyd gan Fresh Creative Abertawe fel rhan o brosiect Ein Cymuned, Ein Cymru, a ariannir gan Admiral, yn arddangos hanes diwylliannol cyfoethog yr ardal leol, ei rôl yn hanes amddiffyniad yr iaith Gymraeg, yn ogystal â phwysigrwydd grwpiau cymunedol lleol.
Yn gyfochrog â chydnabyddiaeth etifeddiaeth cerdd a llenyddiaeth, natur leol a gweithgareddau yn yr awyr agored, mae’r murlun yn portreadu protest Pont Trefechan a chynhaliwyd gan aelodau Cymdeithas yr Iaith yn 1963, protest allweddol a denodd sylw at ddiffyg statws swyddogol yr iaith.
Gwaith celf wedi' canolbwyntio ar gymuned sy'n creu ymdeimlad o berthyn
Mae’r gwaith celf newydd yma, sy’n bwriadu amlygu rôl hollbwysig hanesyddol lleol a Chymreig, hefyd yn ffurfio rhan gyfannol o Lwybr 81 trwy Aberystwyth, gan gysylltu cymunedau ar ddwy ochr yr Afon Rheidol
Darparodd Fresh Creative, cwmni buddiant cymunedol wedi’ leoli yn Abertawe sy’n cynnig cyfleoedd creadigol i blant, pobl ifanc ac aelodau o grwpiau a ymyleiddiwyd ac o dan anfantais, gweithdai cymunedol efo grwpiau lleol fel rhan o broses dylunio’r prosiect.
Cyfrannodd Ysgol Plascrug a Chyngor Tref Aberystwyth at ymgynghoriad y dyluniad, yn ogystal â Wheel Together, myfyrwyr celf Prifysgol Aberystwyth a’r grŵp Choirs For Good.
Helpodd Fresh Creative i ddarparu gweithdy graffiti efo Wheel Together, grŵp beicio hygyrch sy’n cefnogi pobl o bob gallu yn Aberystwyth i fwynhau beicio, yn ei helpu nhw i ychwanegu bach o greadigaeth a lliw i’w stordy lleol.
Dwedodd David Toft, Cyfarwyddwr Fresh Creative Abertawe, am ei ran nhw yn y prosiect, “Mae'n wastad yn bleser i weld sut gall celf trawsnewid lleoliad, roeddem wedi’ ymfalchïo i gael ein gwahodd i weithio ar y prosiect yma, gobeithiwn bydd y murlun yn plesio’r bobl leol ac ymwelwyr am flynyddoedd i ddod.”
“Rhan o’r cyffro o brosiectau cymunedol cydweithredol yw darganfod yr hyn mae pobl yn gwerthfawrogi am eu hamgylchedd a ble maent yn byw; credwn fod y murlun, wedi ei wireddu’n hardd gan Mark Hughes aka SoK, yn portreadu’r darganfyddiadau yma’n wych.”
Mae'r murlun, sy'n sefyll o dan bont hanesyddol Trefechan, yn talu teyrnged i ddiwylliant a hunaniaeth yr ardal. Llun gan: Cyngor Ceredigion.
Ymyriadau cynghorol yn arwain at welliannau ehangach
Mae’r gwaith celf yma wedi’ ategu gan welliannau corfforol i’r ardal a’r rhan leol o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, diolch i Gyngor Ceredigion a’i defnydd o’r Gronfa Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU.
Cefnogodd Cyngor Ceredigion y prosiect gan gynnig y lle gwag corfforol angenrheidiol ar gyfer y murlun, ar wal sy’n rhan o amddiffynfa rhag llifogydd o dan Bont Trefechan, yn ogystal â helpu ariannu lledaenu ac arwynebu’r llwybr fel rhan o welliannau ehangach y Cyngor i lwybrau teithio llesol yn Aberystwyth.
Dwedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Sir Ceredigion, “Mae’r cydweithrediad yma’n amlygu sut gall buddsoddiad yn ein hisadeiledd arwain at fanteision ehangach er lles ein cymunedau.”
“Mae’r prosiect yn dathlu ein hanes, llwyddodd i alluogi ymglymiad cymunedol, yn mwyhau teithio llesol yn ogystal â chyfrannu at adfywiad parhaus promenâd Aberystwyth a’r ardal gyfagos.”
Yn siarad am y prosiect, dwedodd Anthony Jones, Rheolwr Datblygu Rhwydwaith Walk Wheel Cycle Trust, “Mae wedi bod yn llwyddiant gwych i ddod a chymaint o elfennau Cymreig at ei gilydd yn ystod y prosiect yma.”
“O weithio efo’r gymuned yn Aberystwyth i ddod â Fresh Creative o Abertawe, y rôl hanfodol mae cynghorau’r dref a’r sir, mae pob rhan yn diweddu mewn brithlen weledol o hanes Cymru a’r iaith - mae wir wedi bod yn brosiect ledled Cymru.”
“Rydym yn hynod o ddiolchgar hefyd i Admiral am gefnogi’r prosiect yma a gweithio efo ni er mwyn dod â balchder i gymunedau pobl, gan roi ymdeimlad o berthyn iddynt trwy gelf.”