Byd gwyrddach, tecach a mwy llawen - un daith ar y tro.
Walk Wheel Cycle Trust yw’r brif elusen y Deyrnas Unedig sy'n ei gwneud hi'n bosibl i bawb gerdded, olwyno a beicio.
Rydym wedi gweithio ochr yn ochr â chymunedau ledled Cymru am ddegawdau i wneud teithiau bob dydd yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy pleserus.
Ond gwyddom mai arweinyddiaeth gan y llywodraeth all wneud y gwahaniaeth mwyaf — drwy fuddsoddi craff, polisïau cydgysylltiedig a chamau beiddgar.
Dyma ein chwe gofyniad cyraeddadwy ac uchel eu heffaith i Lywodraeth nesaf Cymru, i helpu pawb yng Nghymru deithio'n fwy egnïol a byw bywydau iachach a gwyrddach.
6 gofynion ein maniffesto
#1 Buddsoddi mewn teithio diogel ac iach
Gwneud cystal â dinasoedd a rhanbarthau blaenllaw Ewrop drwy neilltuo 10% o’r gyllideb trafnidiaeth i gefnogi cerdded, olwyno a beicio.
Mae gennym ni ddeddfwriaeth flaenllaw yn y byd eisoes yng Nghymru, ond mae teithio llesol wedi’i than-ariannu o hyd.
Mae angen cefnogaeth ar fwriadau da trwy fuddsoddiad priodol.
Os yw nawdd yn fryn neu'n ansicr, dyna fydd y canlyniadau hefyd.
Mae pobl ledled Cymru'n mynnu llwybrau cerdded, palmentydd a llwybrau beiciau cysylltiedig o ansawdd yn eu cymunedau.
Bydd cyllid hirdymor, cyson yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar awdurdodau lleol i gyflawni newid.
Mae cerdded olwyno a beicio'n flynyddol yn ddinasoedd y DU'n golygu
£6.1 biliwn
o fuddiannau economaidd
£268.5 miliwn
wedi' arbed ar gyfer y GIG
21,426
o gyflyrau iechyd hirdymor difrifol wedi'u hatal
2.3 miliwn
o geir wedi'u cymryd oddi ar yr hewl yn ddyddiol
Ffynhonnell: Mynegai Cerdded a Beicio (2023)
#2 Galluogi cerdded, olwyno a beicio i bawb
Diogelu palmentydd fel eu bod yn ddiogel, yn hygyrch a heb rwystrau.
Mae gormod o balmentydd yng Nghymru wedi torri, yn anniben neu'n anhygyrch, gan wneud cerdded, sgwtera a defnyddio cymhorthion symudedd yn anniogel.
Mae ceir sydd wedi'u parcio ar balmentydd yn gorfodi pobl i fynd allan i'r ffordd — mae angen gweithredu'n gryfach i atal hyn.
Byddai Cronfa Palmentydd bwrpasol yn targedu buddsoddiad mewn strydoedd mawr lleol, ysgolion, canolfannau iechyd, gorsafoedd a llwybrau bysiau – gan roi mynediad cyfartal i bawb.
Mae pobl yng Nghymru eisiau well palmentydd
74%
yn eisiau mwy o balmentydd hygyrch, megis wynebau gwastad ac ymylon palmant wedi'u gostwng
65%
o bobl yn ddinasoedd y DU yn eisiau rhoi mwy o bŵer i gynghorau lleol er mwyn iddynt orfodi
Ffynhonnell: Mynegai Cerdded a Beicio (2023)
Mark, Abertawe
Parcio ar balmentydd sy'n achosi'r problemau pennaf.
Ar adegau, does dim digon o le i mi fynd heibio ochr y car, yn enwedig pan fod pobl yn parcio pob un olwyn ar y palmant.
Mae fy nghi tywys i, Bobby, wedi' hyfforddi i fy nghymryd o gwmpas ceir pan ei fod yn gweld nhw, ond weithiau mae hyn yn golygu fy mod i'n camu allan i'r hewl ac yn cerdded mewn i draffig sy'n dod ataf.
Rwy'n deall nad yw rhai o'n strydoedd ni'n ddigon lled i gymryd ceir yn parcio ar ddau ochr y palmant, ond ar fy nghyfer i gall hyn bod yn beryglus.
#3 Ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i gerdded, olwyno a beicio
Dylai pob plentyn yng Nghymru allu cyrraedd yr ysgol yn ddiogel trwy gerdded, olwyno, beicio neu sgwtera.
Mae llawer o blant a phobl ifanc yn dibynnu ar gerdded, olwyno, sgwtera a beicio er mwyn teithio i'r ysgol ac ar gyfer teithiau lleol eraill.
Mae tystiolaeth yn dangos bod plant eisiau teithio'n egnïol ond maen nhw’n aml yn teimlo'n anniogel wrth wneud hynny, ac mae rhieni'n crybwyll perygl ffyrdd fel y rhwystr mwyaf i deithio llesol i blant.
Mae angen i ni sicrhau mai gan blant ar led Cymru mynediad at lwybrau diogel i’r ysgol, gan gynnwys cyflwyno strydoedd ysgol saff a di-draffig o gwmpas mynediad yr ysgol.
Mae plant yng Nghymru eisiau cerdded, olwyno a beicio'n fwy aml
81%
o blant yn eisiau mwy o lwybrau di-draffig a llwybrau tawel ar gyfer cerdded a beicio
62%
o blant y DU sy'n cerdded, olwyno neu feicio pum diwrnod yr wythnos neu'n fwy
Ffynhonnell: Mynegai Cerdded a Beicio Plant (2024)
Rhian, Ysgol Penrhyncoch, Ceredigion
Mae Penrhyncoch wedi elwa’n fawr o’r rhaglen Teithiau Iach.
Mae wedi annog disgyblion i fod yn fwy egnïol, ac wedi cryfhau ymdeimlad o gymuned trwy deithio’n iach ac yn gynaliadwy.
Mae’r gefnogaeth gan y swyddog Teithio Iach yn werthfawr ac yn gefnogol iawn, ac mae’r disgyblion yn mwynhau’r teithiau i'r ysgol!
#4 Dyluniad cynhwysol, ar bwrpas
Gwneud system drafnidiaeth Cymru yn gwbl hygyrch drwy gynnwys lleisiau pobl anabl ym mhob penderfyniad ynghylch trafnidiaeth.
Mae poblogaeth Cymru yn heneiddio ac mae mwy o bobl yn wynebu heriau symudedd nad yw ein systemau trafnidiaeth yn barod ar eu cyfer eto.
Mae pobl anabl yng Nghymru yn parhau i wynebu cael eu heithrio o drafnidiaeth gyhoeddus ac o deithio o gwmpas eu hardaloedd lleol.
Mae angen i ni ymgorffori lleisiau a phrofiadau byw y bobl sy'n wynebu'r heriau mwyaf pan ein bod ni'n dylunio'r llefydd ble rydym yn byw.
Dylai grwpiau mynediad, dan arweiniad pobl anabl, chwarae rhan gryfach mewn llunio, monitro a chyflawni buddsoddiad mewn trafnidiaeth er mwyn sicrhau ei fod yn gwella cydraddoldeb.
Mae angen well cynnig ar bobl anabl
53%
o bobl anabl yn dweud nid yw llywodraeth y DU yn wneud digon i'w helpu nhw bod yn egnïol
48%
o bobl anabl yn dweud nid yw trafnidiaeth yn fforddiadwy
24%
yn teimlo nad yw llywodraethau lleol neu genedlaethol yn blaenoriaethu hygyrchedd
Ffynhonnell: Trawsnewid Symudedd (2025)
#5 Cysylltu modau a gwneud mwy o deithiau'n bosibl
Sicrhau llwybrau cerdded, olwyno a beicio diogel i bob gorsaf ac arhosfan bws yng Nghymru.
Mae teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn dechrau ac yn gorffen gyda cherdded neu feicio, ond mae gormod o lwybrau i gyrraedd arosfannau a gorsafoedd yn anniogel neu'n anhygyrch.
Bydd cysylltu buddsoddiad mewn llwybrau cerdded, olwyno a beicio diogel â gwelliannau i'n gwasanaethau bws a thrên yn helpu mwy o bobl i deithio'n hawsach.
Oherwydd mae pawb yn haeddu mynediad cyfartal at drafnidiaeth gyhoeddus.
Dylai pob cymuned yng Nghymru cael mynediad at lwybrau diogel i drafnidiaeth gyhoeddus leol
1 ym mhob 10
o bobl yn byw yng Nghymru heb unrhyw fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ble maent yn byw
23%
o bobl yng Nghymru heb fynediad at gerbyd preifat
Ffynhonnell: Gwneud y Cysylltiad (2022)
#6 Cymru i gyd, o bentref i bentref ac o arfordir i arfordir
Cysylltu Cymru drwy gysylltu ardaloedd gwledig a threfol â rhwydwaith o lwybrau a ffyrdd diogel, wedi'u hangori gan y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Dylai’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ffurfio asgwrn cefn y rhwydwaith teithio llesol cenedlaethol.
Mae'r Rhwydwaith yn dod a ni'n agosach at y bobl a'r llefydd rydym yn caru, gan gyfrannu dros 1,600 milltir o lwybrau ar led pob awdurdod lleol yng Nghymru.
Bydd cysylltedd gwell yn cryfhau economïau lleol a thwristiaeth ac yn gwneud bywyd bob dydd yn haws yn ein trefi a'n pentrefi.
Rhaid cynllunio tai a datblygiadau newydd o amgylch cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus ddiogel – nid o amgylch dibyniaeth ar geir.
Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn barod i gysylltu Cymru
£1.7bn
o fuddiannau economaidd yn cael ei gyfrannu at fusnesau lleol gan ddefnyddwyr y RBC
83%
o ddefnyddwyr y RBC yn dweud ei fod yn gwella ei foddhad cyffredinol mewn bywyd
60%
o boblogaeth Cymru'n byw o fewn milltir i'r Rhwydwaith
Ffynhonnell: Cerdded, Olwyno a Ffynnu (2024)
Swnio'n dda? Dangoswch eich cefnogaeth gan roi benthyg i'ch llais
Darllenwch ein maniffesto islawr a gofynnwch i'ch ymgeisydd lleol sut maent am gefnogi cerdded, olwyno a beicio yn eich cymuned chi.
Darganfyddwch eich ymgeiswyr lleol.