Dyma gyfrif Chloe-Jayne Shellard, trigolyn o Dreherbert, wrth iddi adrodd ei phrofiadau o fenthyg e-feic trwy ein prosiect E-Symud, wedi' ddarparu mewn partneriaeth a Chroeso i'n Coedwig ac wedi' ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae benthyg e-feic wedi bod yn ddatguddiad ar gyfer Chloe-Jayne a’i theulu.
Mi wnes i fenthyg e-feic yn gyntaf trwy brosiect E-Symud gan Walk Wheel Cycle Trust ar fenthyciad o un mis.
Cefais feic yr un fath â beiciau Iseldireg efo sedd plant wedi' osod ar y cefn, felly roeddwn i'n gallu'i ddefnyddio'n syth er mwyn cludo fy mhlentyn dau a hanner oed i'r meithrin.
Mae'r beic yn drwm, ond mewn ffordd sy'n teimlo'n ddiogel ac yn gryf ar y ffordd, ac mae'r modur yn gwneud yn iawn am y pwysau.
O'r ddechrau, roedd yn teimlo'n drawsnewidiol ar gyfer ni fel teulu.
Yn sydyn, roedd y math o deithiau a oedd yn arfer bod yn rhwystredig nawr yn gyflym, yn ddibynadwy a hyd yn oed yn ddymunol.
Peth annisgwyl ar gyfer trefn arferol y teulu
Y rhan fwyaf o foreau, roedd cludo fy mab i'r meithrin yn golygu eistedd mewn traffig ar hyd ein stryd fawr ac wedyn brwydro i ddod o hyd i fan barcio tu fas i giatiau’r ysgol.
Doedd cerdded ddim yn llawer gwell chwaith.
Mae'r brif ffordd yn brysur, ac efo crwtyn sy'n hoffi gwibio ymlaen, doedd hi byth yn teimlo'n ddiogel.
Ond, efo'r e-feic mae'r holl daith wedi' drawsnewid.
Mae'r hyn a gymerodd yn llawer rhy hir bellach dim ond yn cymryd saith munud (fe wnes ei amseru!).
Am y tro cyntaf, rwy'n cyrraedd yn teimlo'n llonydd ac ar amser yn lle rhuthro a phryderu.
Rhowch gynnig (am ddim) cyn i chi brynu
Cyn rhoi cynnig ar yr e-feic, roeddwn i'n wirioneddol ystyried prynu ail gar ar gyfer ein teulu.
Mae fy ngŵr i'n hangen ein car ni'n aml ar gyfer y gwaith, ac mae prisoedd trenau - hyd yn oed am un stop yn unig - yn dechrau pentyrru'n gyflym.
Mae beicio wastad wedi apelio ataf, ond mae byw yn y cymoedd yn ei wneud yn anodd; un troad i ffordd o gartref ac rydych yn wynebu bryn serth.
Mae cario crwtyn ar gefn dim ond yn ychwanegu at yr her.
Mae cael y dewis i newid i fodd tyrbo wedi bod yn ddatguddiad.
Yn sydyn reit, mae'r llethrau serth yna'n bosibl, ac rwy'n gallu hyd yn oed mwynhau'r golygfeydd o'r top yn lle cyrraedd wedi blino'n lan.
Rwy'n defnyddio'r beic yn aml ar gyfer siopa hefyd.
Yn lle dychwelyd i'r siop groser agosaf, sy'n fwy costus ac efo llai o opsiynau, byddai'n hapus i deithio'n bellach i'r siop sy'n well gen i.
Ar yr e-feic, dydw i ddim yn teimlo'r un euogrwydd â phetawn i'n gyrru tair filltir i ddim ond pigo lan hoff iogwrt fy mab pan ei fod ar gynnig arbennig.
Pwyso a mesur beth sydd am fod gorau i ni
Mae'r profiad wedi amlygu pa mor ymarferol gall e-feiciau bod fel dewis arall i ail gar.
Maent yn arbed amser, lleihau straen, a gwneud teithiau byr yn wirioneddol ddymunol.
Yn bersonol, y peth mwyaf annisgwyl yw pa mor gyflym mai wedi dod yn rhan o'n fywyd dydd i ddydd.
Mae fy mab yn ddwli teithio ar ei gefn ac yn eisiau mynd arno trwy'r amser - weithiau'n rhy frwd, ac mae angen i mi ei atgoffa nid yw e'n gallu dringo ymlaen a'i yrru ei hun.
Iddo fe, mae'r e-feic yn fwy na dim ond trafnidiaeth; mae'n antur.
Mae benthyg yr e-feic wedi agor fy llygaid i'r hyn sy'n bosib, hyd yn oed mewn man mor fryniog â'r cymoedd.
Mae wedi dangos i mi does dim angen car trwy'r amser ar gyfer teithiau beunyddiol, a gall y dewisiadau arall bod yn ymarferol yn ogystal â braf.
Mae'r hyn a dechreuodd fel benthyciad tymor byr wedi fy ngadael i'n wir ystyried gwneud e-feic yn rhan barhaol o drefn arferol ein teulu - yn enwedig os mae gan fy mab unrhyw beth i ddweud ar y mater.