Cyhoeddedig: 11th Rhagfyr 2025

Ysgolion Teithiau Iach yn ffynnu yn niweddariad yr hydref

Yn y diweddariad yma o'r hydref, edrychwn nôl at rai o lwyddiannau diweddar ysgolion ledled Cymru sydd wedi cofrestru ar gyfer ein rhaglen Teithiau Iach.

Smiling pupils from Ysgol Pentreuchaf pose for a photo with their bike hlemets on.

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Pentreuchaf wedi rhagori ers i'r ysgol ymuno a'r rhaglen Teithiau Iach. Llun gan: Ysgol Pentreuchaf.

Efallai bod gennym enw a delwedd newydd ond mae’r rhaglen Teithiau Iach yr un fath ag erioed.

Rydym yn parhau â’n gwaith o gefnogi plant a phobl ifanc ledled Cymru i deithio’n gynaliadwy ac yn egnïol.

Mae’r rhaglen Teithiau Iach wedi helpu disgyblion, athrawon, rhieni a gwarcheidwaid i ddod yn fwy egnïol ar eu teithiau i’r ysgol.

Y llynedd, arweiniodd ein gwaith gydag ysgolion at 14.4% yn fwy o bobl yn teithio’n egnïol i’r ysgol fel eu dull teithio arferol – mae bron i 50% ohonoch chi bellach yn dewis cerdded, olwyno neu feicio fel eich ffordd arferol o gyrraedd yr ysgol!

Wedi’ ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r rhaglen am ddim hon yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion cynradd, uwchradd, colegau, unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion anghenion dysgu ychwanegol.

Mae gennym le i fwy o ysgolion ymuno â’r rhaglen, felly beth am rannu gyda’ch clwstwr ysgolion lleol a gweld faint o bobl allwch chi eu cael i symud – peidiwch â cholli’r cyfle hwn i rannu a chofrestru!

Ysgolion yn derbyn canmoliaeth y Gwobrau Ysgol Teithio Llesol

Mae ysgolion ledled Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i ennill eu Gwobrau Ysgol Teithio Llesol, gan ymgorffori teithio llesol yng nghynlluniau a diwylliant yr ysgol.

Rydym wrth ein bodd i ddathlu’r nifer o ysgolion sydd wedi ennill y Wobr Efydd, gan gynnwys Ysgol Gatholig y Santes Fair, Ysgol Bro Ingli, ac Ysol Pontybrenin.

Gwelsom wyth ysgol yng Ngwynedd yn llwyddo wrth iddynt dderbyn eu Gwobr Efydd, efo Ysgol Pentreuchaf yn derbyn canmoliaeth arbennig.

Ar ôl dim ond un flwyddyn ar y rhaglen, maent wedi cyflawni’u Gwobr Efydd ac yn ystod Stroliwch a Roliwch eleni cofnodon nhw 45% o deithiau llesol dyddiol – newid anhygoel gan ystyried roedd 100% o deithiau i'r ysgol yn cael ei wneud yng nghar neu ar fws pan geision nhw i’r rhaglen.

Cafodd Ysgol Gynradd Brynmenyn ymweliad gan y Ddirprwy Prif Weinidog, Huw Irranca-Daives AS, i ddathlu Gwobr Efydd yr ysgol.

“Roedd yn bleser i ddathlu Ysgol Gynradd Brynmenyn yn derbyn ei Gwobr Efydd Ysgol Teithio Llesol,” meddai’r Ddirprwy Prif Weinidog.

“Mae eu hymrwymiad calonogol at deithio llesol, yn gyfochrog ag agoriad llwybr arbennig newydd [ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol] a ariannir gan Lywodraeth Cymru, yn gwneud gwahaniaeth go iawn.”

“Mae dathliadau Gwobr Arian gwych wedi bod hefyd, gan gynnwys Ysgol Sant Elfod ac Ysgol Penllwyn.

Llongyfarchiadau arbennig i Ysgol Maes Derw, yr uned cyfeirio disgyblion gyntaf yng Nghymru i ennill y Wobr Arian.

Mae’r ysgol wedi gwneud beicio a chynnal a chadw beiciau’n rhan allweddol o’i chwricwlwm sgiliau bywyd, gan helpu disgyblion i feithrin hyder ac annibyniaeth.

A wyddoch chi fod cymryd rhan yn Wobrau Ysgol Teithio Llesol yn helpu tuag at amcanion Ysgolion Iach ac Eco Sgolion, yn ogystal â chynnig ffordd o greu cyffro am deithio llesol?

Mae clod hefyd yn mynd i Ysgol Emmanuel yn y Rhyl, am gyflawni ei Wobr Aur a dangos ymrwymiad anhygoel i deithiau iachach, mwy cynaliadwy.

Walk Wheel Cycle Trust staff member stands posing for a photo with staff and pupils from Maes Derw pupil referral unit after they achieved their Silver Active Travel School Award.

Llwyddodd Ysgol Maes Derw i ennill ei Gwobr Arian Ysgol Teithio Llesol, yr uned cyfeirio disgyblion cyntaf yng Nghymru i'w wneud. Llun gan: Martin Thomas.

Ysgolion uwchradd cynaliadwy

Rydyn ni wedi bod yn edrych ymlaen yn arw at weithio gydag ysgolion uwchradd ar led Cymru.

Y tymor hwn, rydym wedi bod yn gweithio gydag ysgolion uwchradd yng Ngheredigion, Abertawe, Powys a Wrecsam i hyrwyddo Teithiau Iach.

Mae’n rhaglen hyblyg wedi’ chynllunio i gyd-fynd ag anghenion unigryw pob ysgol, gan gynnig amrywiaeth o brosiectau sy’n gweithio’n dda mewn ysgolion uwchradd a cholegau.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr brwdfrydig ac wedi cael hwyl yn datblygu eu sgiliau cynnal a chadw beiciau a sgiliau ymarferol, a chwblhau hyfforddiant beicio Safonau Cenedlaethol i hybu hyder a diogelwch.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr ar y prosiect #AndSheCycles sy’n llawn ysbrydoliaeth, yn annog mwy o ferched i feicio.

Mae’r prosiect dan arweiniad myfyrwyr hwn yn grymuso merched i barhau i feicio, gan eu cefnogi i sefydlu eu grwpiau beicio eu hunain a chael hwyl ar reidiau dan arweiniad.

Lan yn Wrecsam, cymerodd pwyllgor yr ysgol y cam i ddefnyddio’u llais gan ofyn tîm arweinyddiaeth eu hysgol i ymuno â’r rhaglen.

Ers ymuno â’r rhaglen, mae’r disgyblion wedi bod yn mwynhau gweithdai cynnal a chadw beiciau sydd wedi denu sylw’r disgyblion yn fawr iawn.

Mae llawer o’n gweithgareddau, gan gynnwys #AndSheCycles, yn cyd-fynd â Bagloriaeth Cymru, ac mae ein swyddogion yn barod i gefnogi’r disgyblion gyda’u prosiectau.

Mae teithio llesol yn gelfydd

Nid yw teithio llesol yn ymwneud â’r daith i’r ysgol yn unig – gall fod yn rhan o brofiad yr ystafell ddosbarth hefyd!

Mae ein hadnodd dysgu a datblygu gwych yn llawn syniadau ardderchog i’ch helpu i ddod â theithio llesol i mewn i’r ystafell ddosbarth a’i ymgorffori yn eich addysgu.

Rydym wedi datblygu syniadau gwersi, yn bennaf ar gyfer dosbarthiadau cyfnod allweddol 2, i helpu gyda rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol.

Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld pan fydd ein hysgolion yn bod yn greadigol hefyd.

Mae rhai o’n hysgolion Teithiau Iach wedi bod yn defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu i wneud gwaith celf a dolenni allweddi, yn ogystal â dylunio posteri i hyrwyddo teithio llesol yn eu cymunedau lleol.

Mae cymaint o ffyrdd o ymgorffori teithio llesol yn y cwricwlwm – gofynnwch i’ch Swyddog Teithiau Iach lleol am ragor o wybodaeth am ein hadnodd dysgu am ddim a gweld sut allwch chi ymgorffori ein hadnoddau yn eich gwersi.

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y diweddaraf o'n gwaith ni yng Nghymru