Cyhoeddedig: 15th Ionawr 2026

Cyfnewid tagfa geir am e-feiciau yn llwyddiant mawr yn ôl staff CThEF

Gan ddefnyddio e-feic llwyddodd Jack a’i fab i gael dechreuad egnïol i’r ddiwrnod. Llun gan: Cyllideb a Thollau EF.

Gweithion ni efo Cyllideb a Thollau EF yng Nghaerdydd yn ddiweddar er mwyn darparu prosiect peilot e-feiciau, gan roi'r cyfle i staff benthyg e-feic am bythefnos a rhoi cyfle ar ddefnyddio nhw wrth iddynt deithio i'r gwaith.

Roedd y syniad yn syml - i weld os gall newid bychan, megis cyfnewid y car am e-feic, sbarduno newid mawr yn sut maent yn teithio i'r gwaith.

Roedd rhesymau amrywiol am gymryd rhan yn y prosiect, ond daeth dau brif reswm i'r brig: y chwant i ymgorffori mwy o ymarfer mewn i'w ddiwrnod a chwilio am daith i'r gwaith oedd yn fwy cynaliadwy heb lawer o ymdrech.

Er i rai o staff CThEF eisoes yn defnyddio ffyrdd cynaliadwy o deithio - megis trafnidiaeth gyhoeddus - i'r gwaith, roedd rhai yn ddibynnol ar eu ceir (yn ogystal ag Uber o bryd i'w gilydd) er mwyn cyrraedd eu gwaith.

Beth, felly, oedd y canlyniadau?

Creu cynnwrf gan wneud teithio’n hwylus ac yn hawdd

O'r ddiwrnod cyntaf, roedd pawb yn llawn cyffro - cafodd pobl syndod gan ba mor hawdd a difyr oedd y teithiau, yn enwedig wrth fynd lan bryniau bach twyllodrus Caerdydd.

Efo hwb bach yn dod o'r dechnoleg, newidiodd y daith o galedwaith chwyslyd i ddechreuad hwyliog, egnïol i'r ddiwrnod.

Pan gafodd ei ofyn am yr hyn mwynhaodd e'r fwyaf am yr e-feic, ymatebodd Jack yn syml, "Y rhyddid!" - canfu ef ei fod e'n gallu gadael y gwaith pan ei fynnodd, osgoi traffig, a dal cyrraedd y gwaith heb iddo chwysu'n ormodol neu wedi' flino.

"Gwnaeth y daith i'r gwaith yn llai o dasg ac yn fwy fel dechreuad adfywiol i'r ddiwrnod," ychwanegodd Jack.

Rhannodd cydweithiwr arall, Louis, sy'n teithio dros fryn serth ar ei ffordd i'r gwaith, moment cofiadwy:

"Roedd angen i mi stopio ac iawnhau'r brêciau ar y ffordd i lawr, roedd hi mor serth â hynny!

"Ond y peth annisgwyl oedd pa mor hawdd oedd pedalu nôl lan ar y ffordd adref - doeddwn i byth 'di meddwl byddaf yn dweud hyn, ond i ryw raddau mi wnes i fwynhau'r bryn!"

Bwriad y prosiect peilot oedd rhoi cynnig ar rywbeth newydd, ond hefyd ailasesu'r hyn sy'n bosib - dychmygu'r hyn gallan newid pan ein bod ni'n newid y ffordd rydym yn teithio.

Mae'r ffaith fy mod i'n gallu mynd â fy mhlentyn o ddwy oed i'r meithrin ac yna'n syth ymlaen i'r gwaith ar yr un beic yn drawsnewidiol.
Jack, CThEF Caerdydd

Manteision helaeth sy’n mynd ymhellach na theithio i’r gwaith

Nid ond y staff a chafodd y cyfle o fwynhau'r manteision o dreialu e-feic, profon nhw'n boblogaidd iawn efo teuluoedd pobl hefyd.

Defnyddiodd Jack, a fenthycodd e-feic cargo, y prosiect i wneud y daith i'r gwaith yn fwy difyr ar gyfer ei blentyn hefyd:

"Mae'r ffaith fy mod i'n gallu mynd â fy mhlentyn o ddwy oed i'r meithrin ac yna’n syth ymlaen i'r gwaith ar yr un beic yn drawsnewidiol.

"Roedd yn teimlo fel ffordd mor ymarferol a llon i ddechrau'r diwrnod - ac fe fwynhaodd fy nghrwt y daith hefyd.

"Cawsom beth trafferth wrth geisio esbonio iddo fe roedd angen dychwelyd y beic ar ôl y pythefnos!"

Dwedodd Nimat, "Cododd fy hwyl yn sicr pan oeddwn i'n defnyddio'r beic, roedd yn wych i mi gael defnyddio fy symudedd yn lle eistedd yn stond ar y bws.

"Mi wnes i arbed tipyn o arian ar drafnidiaeth gyhoeddus gan feicio i bob man, ac rydw i'n caru cefnogi cynaladwyedd a gweithrediad er lles yr amgylchedd, felly roedd yn fendigedig i leihau fy nhroed ôl carbon hefyd."

[W]nes i mi ddim ond mynd ar daith gan gerdded dwywaith yn ystod y benthyciad!
Nimat, CThEF

Newid y ffordd rydym yn teithio er mwyn newid sut rydym yn gweld y byd

Yn achos Jack, daeth un o'r adegau cofiadwy pan oedd yn beicio o gwmpas Caerffili efo'i fab.

"Roedd yn gyfle i arafu lawr a chymryd ein hamgylchoedd mewn o ddifrif.

"Dechreuodd iddo sylweddoli ar bethau nad oedd erioed wedi nodi o'r blaen, oherwydd fel arfer rydym yn gwibio heibio mewn car."

Ar gyfer Nimat, rhywbeth a daeth o'r e-feic oedd dewis o drafnidiaeth ddibynadwy oedd wastad yn bresennol.

"Cymerais fantais lawn o gael y beic a defnyddiais i fynd ym mhob man!

"Cefais sawl taith beic hamddenol, sut gymaint nes i mi ddim ond mynd ar daith gan gerdded dwywaith yn ystod y benthyciad!

"Defnyddiais i'r beic i wneud fy siopa wythnosol, cwrdd â ffrindiau ac archwilio llefydd - roedd yn hyfryd."

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru