Cyhoeddedig: 17th Rhagfyr 2019

Walk Wheel Cycle Trust yn ymateb i Adroddiad Comisiwn De-ddwyrain Cymru

Mae Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru wedi rhyddhau eu diweddariad cynnydd ar atebion amgen i ffordd liniaru'r M4.

Heavily congested traffic

Sefydlwyd y Comisiwn gan y Prif Weinidog Mark Drakeford pan gyhoeddodd na fyddai ffordd liniaru newydd i'r M4 yn cael ei hadeiladu, penderfyniad y mae Walk Wheel Cycle Trust yn ei gefnogi'n gryf.

Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd Ellen Jones, Uwch Swyddog Polisi:

"Mae'n addawol gweld bod y Comisiwn o ddifrif ynglŷn â darparu atebion amgen i'r car i bobl, bydd yr atebion hirdymor a amlygir yn yr adroddiad hwn os cânt eu cyflwyno yn mynd â Chymru gam yn nes at greu system drafnidiaeth sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Rydym yn gwybod mai plastr glynu yn unig fyddai adeiladu ffordd newydd ar gyfer y problemau tagfeydd sy'n wynebu pobl Casnewydd. Mae angen i ni ddarparu seilwaith cerdded a beicio o ansawdd da iddynt hwy a rhanbarth ehangach de-ddwyrain Cymru sy'n gysylltiedig â system drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, fforddiadwy a dibynadwy.

"Mae Walk Wheel Cycle Trust yn edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach â'r Comisiwn wrth iddyn nhw edrych ar eu cynlluniau tymor hir yn fanylach."

Darganfyddwch fwy am ein gwaith yng Nghymru

Rhannwch y dudalen hon