Mae Walk Wheel Cycle Trust yn falch i bartneru â Chroeso i’n Coedwig i ddod â’i brosiect benthyca e-feiciau cymunedol llwyddiannus, E-Symud, i gwm Rhondda Fawr yn Ne Cymru. Mae’r prosiect, wedi’ ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, am redeg am flwyddyn efo pobl sy’n byw yn ardal Treherbert a Threorci nawr yn gallu benthyg e-feic neu e-feic cargo am ddim.

Mae E-Symud yn dod i Dreherbert a Threorci diolch i’r prosiect newydd yma mewn partneriaeth â Chroeso i’n Coedwig. Llun gan: Walk Wheel Cycle Trust.
Diolch i bartneriaeth newydd gyda Chroeso i'n Coedwig a nawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae'r prosiect benthyca e-feiciau E-Symud yn dod i gwm Rhondda Fawr.
Mae'r prosiect E-Symud, sydd eisoes wedi cael ei ddarparu'n llwyddiannus mewn ardaloedd gwahanol o Gymru dros y blynyddoedd diwethaf, yn galluogi pobl, busnesau a mudiadau i roi cynnig ar ddefnyddio e-feic am ddim.
Gall unigolion benthyg e-feic am gyfnod o bedair wythnos, am ddim, a gall busnesau a mudiadau benthyg e-feic cargo am dri mis.
E-Symud yn gwneud e-feiciau yn hygyrch i fwy o bobl dros Gymru
Bydd y fersiwn yma o'r prosiect E-Symud yn cael ei ddarparu o Dreherbert am flwyddyn, diolch i bartneriaeth efo Croeso i'n Coedwig.
Un o amcanion y prosiect, yn gyfochrog â cheisio gwneud e-feiciau'n fwy hygyrch i bawb, yw helpu annog mwy o deithiau aml-ddull yn y cymoedd Cymreig.
Mae gan e-feiciau llawer o fanteision i gynnig, megis gwneud bryniau'n hawddach i ddringo ar gefn beic.
Mae rhai o fanteision eraill o ddarpariaeth y prosiect E-Symud ar led Cymru wedi cynnwys teimlo gwellhad i iechyd a lles, gwell hyder a newidiadau i sut mae pobl yn dewis teithio.
Mae busnesau wedi adrodd amseroedd teithio cyflymach, arian wedi' harbed ar gostau tanwydd a theimlad gwell o ysbryd ymhlith gweithwyr.
Modd hwylus a chynaliadwy o drafnidiaeth
"Rydym yn caru'r prosiect E-Symud oherwydd yr hyn mae'n cynnig pobl, cyfle i brofi modd o drafnidiaeth sy'n hwylus ond weithiau'n waharddol o gostus," dwedodd Charlie Gordon, Rheolwr Prosiect yn Walk Wheel Cycle Trust.
"Mae'r prosiect yn cynnig y cyfle i bobl benthyg am ddim, felly gall unrhyw un sy'n fyw yn lleol cofrestru a benthyg beic efallai ni fyddant wedi' ddefnyddio fel arall."
"Mae gennym e-feiciau sy'n addas ar gyfer anghenion gwahanol - beiciau sy'n plygu lan sy'n ddelfrydol ar gyfer teithio i'r gwaith ar y trên, beiciau gallwch gamu drwodd sy'n haws o ran hygyrchedd, hyd at e-feiciau cargo sy'n gallu cael ei ddefnyddio i gludo llwyth o bethau."
Bydd y prosiect E-Symud yn cael ei darparu o'r Hen Lyfrgell ar Stryd Bute yn Nhreherbert hyd at fis Mai 2026, efo staff Walk Wheel Cycle Trust yn bresennol ar ddyddiau Mawrth ac Iau.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect neu fynegi diddordeb mewn benthyg e-feic, cysylltwch â staff Walk Wheel Cycle Trust.