Cyhoeddedig: 28th Ionawr 2026

Gwaith atgyweirio o ganlyniad i dirlithriad yn amlygu’r angen am fwy o gyllid er lles y Rhwydwaith

Blwyddyn ddiwethaf, helpon ni cyfrannu cyllid tuag at atgyweirio Llwybr 81 o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Ngheredigion o ganlyniad i dirlithriad. Dyma esiampl ddiweddar arall o'r Rhwydwaith yn cael ei heffeithio gan dywydd eithriadol o ganlyniad i newid hinsawdd, ac mae angen i ni ei hamddiffyn.

A trio of side-by-side images showing NCN 81. In the first two images, the path shows the signs of a landslide; the third, shows the repaired section.

Y difrod a achoswyd i Lwybr 81 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, a'r atgyweiriad i'r rhan o'r llwybr. Llun gan: Walk Wheel Cycle Trust.

Diolch i gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, roedd Walk Wheel Cycle Trust wedi medru helpu ariannu'r gwaith atgyweirio olaf angenrheidiol ar gyfer Llwybr 81 yng Ngheredigion yn ddiweddar.

Roedd angen ar y gwaith o ganlyniad i dirlithriad a ddigwyddodd ger Llanilar, yn arwain at gaead o fron i ddwy flynedd ar Lwybr yr Ystwyth.

Gan gydweithio a Chyngor Ceredigion, cafodd y cyllid ei ryddhau er mwyn gwella hygyrchedd a hydwythedd y Rhwydwaith.

O ganlyniad, bydd mwy o bobl yn gallu teithio gan gerdded, olwyno neu feicio ar hyd y llwybr, ac felly'n hybu ffyrdd iachach o deithio.

Cymerodd yr atgyweiriadau ychydig dros flwyddyn i gyflawni, efo mur cynhaliol a llwybr troed newydd yn angen ar ôl i goeden cwympo ac achosi'r clawdd cynhaliol i gael ei ddymchwel yn ystod storm.

"Rwyf wir yn falch bod trigolion lleol wedi gallu mynd ati i ddefnyddio'r llwybr yma eto," dwedodd Stephen Cunnah, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu yn Walk Wheel Cycle Trust.

"Mae'r atgyweiriad ar y llwybr yma'n amlygu pa mor bwysig yw'r Rhwydwaith fel caffaeliad lleol a chenedlaethol yma yng Nghymru.

"Mae'n cyfrannu tuag at ein heconomi, ein hiechyd ac ein lles - os nad yw ar gael, byddan oll yn waeth ar ei chyfer.

"Rydym wedi gweld llwybrau eraill ar draws Cymru wedi'u hamharu gan dirlithriadau a difrod yn deillio o stormydd, rhywbeth a phriodolon i dywydd eithriadol amlach.

"Os ydyn ni eisiau'r Rhwydwaith i fod yna ar gyfer ni yn y dyfodol, mae angen i ni ei chadw gan fuddsoddi ynddi."

85%

o ddefnyddwyr yn dweud bod y Rhwydwaith wedi eu helpu i gynyddu eu faint rheolaidd o ymarfer corff

83%

o ddefnyddwyr yn dweud bod y Rhwydwaith yn gwella eu boddhad cyffredinol â bywyd

Tywydd eithriadol a thirlithriadau yn achosi llanast ar y Rhwydwaith

Mae'r tirlithriad ger Llanilar yn un esiampl ddiweddar o'r llawer ledled y DU sy'n dangos effaith newid hinsawdd ar ein llwybrau cerdded a beicio.

Yn yr Alban, gwelsom gwymp y Draphont Spey, pont rheilffordd nodedig o'r 19eg ganrif sy'n ffurfio rhan o Lwybr 1 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, o ganlyniad i erydiad y pridd achos cynyddiad mewn llif y dŵr.

Llwybr 4 yw un o brif lwybrau'r DU, yn rhedeg o galon Llundain i wylltion gorllewin Cymru, a blwyddyn ddiwethaf gwelsom y rhan ger Wisemans Bridge yn ail agor o'r diwedd ar ôl nifer o dirlithriadau dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd amcangyfrif y costau atgyweirio ar gyfer y rhan yma o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol - sydd hefyd yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru - ar gyfer yr awdurdod lleol yn agos at £700,000, yn ôl y sôn.

Mae costau'r tirlithriadau yma'n mynd ymhellach na'r hyn sydd angen er mwyn atgyweiriadau, hefyd, ar ôl i Gynghorydd Cyngor Sir Benfro dweud cafodd y caead effaith negyddol ar fusnesau lleol.

Efo amcangyfrif o 480,000 o ymwelwyr wedi'u cofnodi yn teithio ar hyd y llwybr yn Wisemans Bridge, mae'n amlwg i nodi bydd caeadau mawr am gael effeithiau cynyddol ar dwristiaeth leol.

Yn Sir Gaerfyrddin, cafodd rhan o Lwybr 47, rhwng y Tymbl a Phontyberem, ei ddinistrio'n llwyr ar ôl tirlithriad sylweddol yn yr ardal sy'n cael ei adnabod fel y Cwm Swistirol.

Postiodd yr Aelod Seneddol lleol am y tirlithriad yma, gan ei gyfrif i'r lefelau uwch o law a stormydd, canlyniad uniongyrchol newid hinsawdd.

£1.7bn

budd amcangyfrifedig i fusnesau lleol gan ddefnyddwyr y Rhwydwaith

£21.5m

arbedion amcangyfrifedig i'r GIG o ganlyniad i gerdded a beicio ar y Rhwydwaith

600,000

diwrnodau salwch amcangyfrifedig a ataliwyd diolch i weithgarwch corfforol ar y Rhwydwaith

Amddiffyn dyfodol y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

Rydym eisiau sicrhau bydd y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn parhau ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod, felly rydym yn galw am fwy o gyllid fel rhagofal.

Bydd gwell buddsoddiad mewn mesurau rhwystrol ac isadeiledd rheoli dŵr, yn ogystal â mesurau eraill, yn helpu lleihau effaith digwyddiadau sylweddol sy'n gysylltiedig â'r tywydd fel y rheini.

Cymerwch, fel esiampl, Llwybr 9 yn Belfast, sy'n cael ei hadnabod yn lleol fel llwybr halio Lagan.

Cafodd ei gau am dros flwyddyn wrth i argae eang cael ei adeiladu, fel rhan o gynllun amddiffyn rhag llifogydd.

Roedd angen ar yr ymyriad yma oherwydd y perygl o lifogydd yng nghyd-destun yr afon, sy'n llifo mewn i Belfast Lough - mesurau a chafodd eu gweithredu er mwyn atal llifogydd rhag effeithio'r gymuned a busnesau lleol.

Mae Ffordd 9 yn llwybr poblogaidd iawn ar gyfer pobl sy'n teithio i'r gwaith, yn ogystal â bod yn llwybr hamdden leol boblogaidd, sy'n tanlinellu'r pwysigrwydd o gadw'r ffordd yma'n ddiogel ar gyfer yr hir dymor.

Mae teithio llesol yn gwneud mwy na dim ond ein cael i ni symud, mae hefyd yn rhoi'r gwagle i ni feddwl a helpu ni gysylltu â natur, teulu a ffrindiau.

Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol wir yn cysylltu ni at ein gilydd - mae bron i 60% ohonom yn fyw o fewn milltir iddi – felly mae angen cyllid grymus a chyson er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gysylltu ein cymunedau.

Pe baech chi'n cerdded, olwyno neu feicio, mae'r Rhwydwaith yna ar ein cyfer ni gyd, ond mae angen i ni sicrhau ei fod yn goroesi ar gyfer y dyfodol.

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru