Canllaw rhagarweiniol i ddylunio cymdogaethau traffig isel
Rydym wedi creu'r canllaw dylunio rhagarweiniol hwn i amlinellu'r dull, yr offer a'r technegau sydd eu hangen i ddylunio cymdogaeth draffig isel (LTN).
Gobeithiwn y gall fod yn gyfeirnod defnyddiol i beirianwyr, dylunwyr trefol, cynllunwyr, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn creu dinasoedd a threfi y gellir byw ynddynt.
Er y dylai'r egwyddorion a amlinellir fod yn berthnasol i'r rhan fwyaf o gynlluniau, bydd y manylion bob amser yn benodol i'r cyd-destun.
Nid yw dyluniad gwych yn ddigon i warantu cymdogaeth draffig isel lwyddiannus, a fydd yn gofyn am raglenni monitro cyflenwol, ymgysylltu â'r gymuned a newid ymddygiad.
Mae'r canllaw hefyd yn cynnwys dolenni i ymchwil gyfredol ar LTNs.
1. Dadlau'r achos dros gymdogaeth draffig isel
2. Dosbarthiad stryd
3. Diffiniad cymdogaeth traffig isel
4. Blaenoriaethu cymdogaethau traffig isel
5. Dylunio cymdogaeth draffig isel
6. Y tu hwnt i'r gymdogaeth draffig isel (ffyrdd ffin)
7. Tu hwnt i ddylunio