Cyhoeddedig: 13th Tachwedd 2025

Yr ymgyrch cymunedol a gwellodd hygyrchedd i bawb ar y Rhwydwaith

Mae'r ymgyrch i wella hygyrchedd ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a Llwybr Arfordir Cymru yn Sir y Fflint yn esiampl bwerus o weithrediad cymunedol ar waith. Dyma ddarn yn sôn am yr ymgyrch gan Dave Hughes o'r grŵp Trefnu Cymunedol Cymru (TCC).

An A-frame barrier located on a section of NCN 5 in Flintshire.

Mae Trefnu Cymunedol Cymru wedi arwain yr ymgyrch i wella hygyrchedd ar Lwybr 5. Llun gan: David Hughes\TCC.

Mae Trefnu Cymunedol Cymru (TCC) yn elusen trefnu gymunedol sydd wedi bod wrthi'n grymuso pobl ar draws gogledd-ddwyrain Cymru am 30 blwyddyn.

Gan ddod â grŵp amrywiol o bobl at ei gilydd wedi' seilio ar amcanion a rennir, mae TCC yn helpu cymunedau mwyhau eu lleisiau, dylanwadu ar bolisi, a gweithredu newid cymdeithasol.

 

Adeiladu ymgyrch gan ddechrau o'r dechrau

Dechreuodd yr ymgyrch i waredu rhwystrau o Lwybr Arfordirol Sir y Fflint efo The FDF Centre for Independent Living, grŵp aelod TCC yn argymell bod rhwystrau ffrâm-A ac allwedd RADAR yn cael eu gwaredu ar hyd y ffordd.

Roedd y rhwystrau yma'n atal mynediad ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, pobl a chymorth symudedd, a theuluoedd a phramiau dwbl.

Er adroddiadau gan Gyngor Sir y Fflint a Walk Wheel Cycle Trust Cymru yn cadarnhau bod y rhwystrau'n mynd yn erbyn Deddf Cydraddoldeb (2010), doedd dim newidiadau.

Ym Mehefin 2024, daeth The FDF Centre a'r mater i sylw TCC ac efo cefnogaeth tri grŵp aelod arall, cafodd yr ymgyrch ei gyflwyno.

Fideo ymgyrch TCC, yn galw am welliannau i hygyrchedd ar hyd arfordir Sir y Fflint.

Mynd ati er mwyn creu newid go iawn

Arweiniodd trefnwyr cymunedol gwaith ymchwil helaeth, gan dynnu ar ddogfennau deddfwriaeth a pholisi gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb (2010), fframwaith Llywodraeth Cymru Gweithredu ar Anabledd, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Dangosodd y casgliad bod polisi'r rhwystrau yn mynd yn erbyn nifer o amcanion cydraddoldeb a lles ar radd leol a chenedlaethol.

Dechreuodd TCC pryd hynny i ddechrau adeiladu grŵp eang o gynghreiriaid.

Ymunodd grwpiau lleol megis North Wales Crusaders Wheelchair Rugby League, Chester Wheelers, ac unigolion a phrofiad bywadwy a mudiadau cenedlaethol gan gynnwys Cycling UK, Walk Wheel Cycle Trust Cymru, Wheels for Wellbeing, Disabled Ramblers UK, a Transport for All.

Chwaraeodd Cycling UK rôl hanfodol, trwy ei gynrychiolydd gwirfoddoli ymroddedig, mewn dylanwadu ar strategaeth ac ymgysylltu.

Darparodd Walk Wheel Cycle Trust cefnogaeth arbenigol trwy ei Reolwr Datblygu Rhwydwaith, a wnaeth cyfrannu’n weithredol tuag at gyfarfodydd a helpodd ymgysylltu ag hapddalwyr gwleidyddol.

Roedd yr ymgyrch yn llwyddiant o ganlyniad i'w gallu i ddenu cefnogaeth y cyhoedd yn ogystal â'r rheini sydd mewn pŵer.

Amlygrwydd a chefnogaeth ymhlith y cyhoedd a gwleidyddiaeth

Cynhaliodd y grŵp ymgyrchu ei gyfarfod cyntaf yn Orffennaf 2024, gan sefydlu’ hamcanion a dynodi hapddalwyr allweddol tu fewn i Gyngor Sir y Fflint.

Cafodd llythyron eu danfon i’r Prif Weithredwr, Prif Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, ac Arweinydd y Cyngor, wedi’ gyd-arwyddo gan TCC a’u 40 aelodau grŵp.

Cafodd copïau hefyd eu danfon i bob un o’r 67 Cynghorwyr, chwe Aelod o’r Senedd, a dau Aelod o Senedd San Steffan.

Arweiniodd gweithrediad a phwysau parhaol gan y grŵp ymgyrch at Gyngor Sir y Fflint i gyhoeddi i’r wasg byddant yn cael gwared ar y rhwystrau.

Yn dilyn y cyhoeddiad yma, cwrddodd y grŵp ymgyrch efo Arweinydd newydd Cyngor Sir y Fflint ar ddau achlysur.

Yn ystod y cyfarfodydd yma, ailadroddodd yr Arweinydd ymrwymiad y Cyngor tuag at waredu’r rhwystrau yn ogystal â chynnig amserlen fras ar gyfer y proses.

Dechreuodd gwaith i ddatgymalu’r rhwystrau ffrâm-A ar hyd y llwybr o 20 milltir, gan ddynodi buddugoliaeth sylweddol ar ran hygyrch a chynhwysedd.

Yn ogystal ag ymgysylltu â’r Cyngor, cwrddodd aelodau’r grŵp ymgyrch efo pum Aelod o’r Senedd a dau Aelod o Senedd San Steffan.

Cafwyd ymateb cadarnhaol gan y cynrychiolwyr etholedig yma, gan fynychu cyfarfodydd rhithwir a phersonol ar Lwybr Arfordir Cymru.

Mynegon nhw gefnogaeth gref dros yr ymgyrch ac ysgrifennon nhw at Gyngor Sir y Fflint, yn galw am weithrediad ar frys.

Helpodd eu hymglymiad i wella amlygrwydd yr ymgyrch ac ychwanegu pwysau gwleidyddol i’r galw am newid.

Chwaraeodd cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu rôl hanfodol.

Efo caniatâd, rhannodd TCC straeon personol pwerus oddi wrth unigolion wedi’u heffeithio gan y rhwystrau.

Amlygodd fideos a straeon effaith emosiynol ac ymarferol gwaharddiad, gan atseinio’n eang ac adeiladu cefnogaeth y cyhoedd.

Helpodd y straeon yma i ddynoli’r mater ac ychwanegu brys i’r ymgyrch.

Hybodd Aelodau’r Senedd cyfarfodydd efo’r grŵp ymgyrch ar eu cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Gosod esiampl o bŵer trefnu cymunedol

Mae ymgyrch Llwybr Arfordir Sir y Fflint yn esiampl o bŵer trefni cymunedol a phrofiad bywadwy.

Trwy waith ymchwil, adeiladu cynghrair ac ymgysylltu efo’r cyhoedd, llwyddodd TCC a’i bartneriaid i greu newid ystyrlon.

Llwyddodd yr ymgyrch i wella hygyrchedd corfforol yn ogystal â chryfhau perthynas glòs ymhlith y gymuned a gosod cynsail ar gyfer creu polisi cynhwysol yng Nghymru.

Yn bwysicaf oll, mae Cyngor Sir y Fflint nawr yn ymgysylltu’n bellach efo grŵp yr ymgyrch, i sicrhau bod unrhyw rwystrau’n cydymffurfio â chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol.

Mae’r grŵp wedi’u haswirio nid ymdrech perfformiadol yw hyn, ond ymdrech gwirioneddol i wneud gwelliannau sydd am gael newid sylweddol ar fywydau pobl.

Mae’r cydweithrediad parhaol yma’n adlewyrchu symudiad tuag at lywodraethu sy’n fwy cynhwysol, ac ymrwymiad i wrando ar y rheini sy’n cael eu heffeithio’r fwyaf gan benderfyniadau polisi.

Dangosodd adborth oddi wrth aelodau’r ymgyrch pa mor bwysig oedd rôl TCC gan gydlynu ymdrechion, gwella cyfathrebu a sicrhau bod y rheini mewn pŵer yn atebol.

Nododd un aelod sut trawsnewidiodd yr ymgyrch o frwydr hir-dymor i fudiad cyfun, eglur o ganlyniad i ymrwymiad TCC.

Rhannwch y dudalen hon